Cyhoeddodd
sylfaenydd yr Wyl, y canwr o Bant Glas, Bryn Terfel,
y manylion ddydd Gwener.
Cafodd
yr wyl ei chynnal gyntaf yn 2000 ar Stad y Faenol.
Bryn
Terfel: Falch o'i wyl ei hun
|
Eleni
fe fydd yn cael ei chynnal dros benwythnos Gwyl
y Banc ym mis Awst, 23-25.
Daeth
y newydd ar y diwrnod y derbyniodd Mr Terfel ei
CBE mewn seremoni yng Nghaerdydd.
Bydd
yr Wyl yn newid a'r cyfan yn dechrau ar y nos Sadwrn
yn lle'r nos Wener.
Fe
fydd sêr o bedwar ban y byd yn cymryd rhan a'r tenor
José Carreras yn siwr o ddenu miloedd i'r ardal.
"Mae'n
rhyfedd meddwl y bydd un o denoriaid gorau'r byd
yn canu mewn cae rhwng Caernarfon a Bangor," meddai
Mr Terfel.
"Dwi
wrth fy modd yn cael José Carreras, un o denoriad
gorau ein hoes, yn canu yn fy ngwyl i.
Croeso
Cymreig
"Gobeithiaf
y cawn gynulleidfa o gwmpas y 10,000 er mwyn cael
rhoi croeso cynnes Cymreig iddo."
Ymhlith
yr enwau eraill fe fydd sêr y West End yn cymryd
rhan yn y noson agoriadol ar y nos Sadwrn.
Yng
ngyngerdd Cerddoriaeth O Dan y Sêr bydd Sally Anne
Triplett, Simon Bowman o Gaerdydd a James Graeme.
Nos
Sul gyda Bryn Terfel a Carreras yn y Gala Operatig
fe fydd Cerddorfa Cwmni Opera Cymru a Hayley Westenra
o Seland Newydd sydd yn 16 oed ac eisoes wedi recordio
ei halbwm gyntaf.
Ar
nos Lun Gwyl y Banc y bydd Bryn Terfel yn canu.
"Noson
Tân y Ddraig ydy fy ffefryn ac rwy'n falch iawn
ohoni," meddai.
Dyma
pryd y bydd rhai o grwpiau roc a phop Cymru, rhai
o'r cewri yng Nghyrmu yn perfformio i ail fyw y
1970au a'r 1980au.
Eleni
fe fydd Bryn Fôn, Celt, Mynediad am Ddim a Dafydd
Iwan yn perfformio.
"Tra
bod pobol yn dal i ddod i'r cyngherddau, bydd yr
wyl yn dal i fynd," meddai.
Mae
Gwyl y Faenol wedi cael ei hanrhydeddu yng Ngwobrau
Twristiaeth Cymru 2001 fel y Sioe Orau yng Nghymru
Digwyddiad y Flwyddyn.
Cysylltiadau
Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd
allanol.
Item
located by HWI Webmaster